
Clwb Brecwast
Beth yw Clwb Brecwast?
Bob mis, rydym yn gwahodd ein cymuned i ymuno â ni am frecwast ar draws ein holl safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Y Barri ac Abertawe.
Ar gyfer pwy mae Clwb Brecwast?
Nid oes angen archebu lle ac nid oes unrhyw bwysau i rwydweithio. Cyfle yn unig ydyw i chi alw heibio, cael tamaid i frecwast a chael sgwrs ag wynebau newydd a chyfarwydd.
